Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
9 Mehefin 2014
CLA405 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2014/2015.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei dderbyn.